Cliciwch ar y botwm iaith i fynd i wefan yr Academi.
Yr Academi Gymreig yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
Mae’r Academi yn cynnal cystadlaethau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill. Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Derbyniodd yr Academi Ddyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru 2008 – 2010 ac fe’i penodwyd yn un o chwe chwmni cenedlaethol Cymru gan Adolygiad Buddsoddi 2010 Cyngor Celfyddydau Cymru. Cliciwch yma i ddarllen rhagor.

