Aelodau
T. Llew Jones (Llywydd Anrhydeddus)
Cydnabyddir T. Llew Jones yn un o feistri’r canu caeth. Y mae’n Llywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod o’i chychwyn yn 1976. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 ac yn 1959. Y mae ymhlith y mwyaf toreithiog o lenorion Cymraeg ac yn awdur dros 50 o lyfrau. Mae wedi gwneud cyfraniad pwysig fel awdur llyfrau poblogaidd i blant, a rhoddwyd iddo radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru yn 1977.



