All Lit Up - Poems
Y dydd byrraf Mererid Hopwood
Un cwmwl a’r glaw’n cymell
dagrau am y pethau pell…
fel cymar nad yw’n gariad,
fel ty twt heb ofal tad,
a gwen na chaiff ei geni
a llaw heb law i’w dal hi,
calon heb galon neu gan
a’i halaw yng nghri’r wylan,
a rhywle bob bore bach
hiraeth am weld dydd hirach,
…un cwmwl a’r glaw’n cymell
dagrau am y pethau pell.



