Archif Newyddion
Yr Academi yng Ng?yl y Gelli
Dydd Gwener 27 Mai – Dydd Sul 5 Mehefin 2005
Os ydych chi am fentro i ?yl y Gelli eleni, cofiwch daro heibio i stondin Llenyddiaeth yng Nghymru, lle bydd yr Academi’n rhannu safle â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Bwrdd Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y stondin yn tynnu sylw at lenyddiaeth yng Nghymru.
Cynhelir lansiadau gan gyhoeddwyr Cymru, megis Parthian, Gwasg Gomer, Accent Press, Honno, Y Lolfa a Glyndwr. Bydd y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson yn cyfarfod â Sgwadiau Sgwennu. Bydd y Sgwadiau yn cael cyfarfodydd a gweithdai yn ystod yr ?yl hefyd.
Am 12 canol dydd, ddydd Llun 30 Mai, bydd yr Academi, ar y cyd â’r cwmni dylunio Creo, yn lansio rhestr digwyddiadau arlein newydd sbon. Caiff ymwelwyr gyfle i hioli Creo ynglŷn âr dechnoleg newydd.
Am 2.30 pm yn Oriel Grant Thornton, ddydd Llun 30 Mai bydd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru yn cael ei hurddo. Peidiwch ag anghofio chwaith am dderbyniad Llyfr y Flwyddyn ym mhabell Blas.
Am ragor o wybodaeth am yr Academi yng Ng?yl y Gelli, cysylltwch â ni: 029 2047 2266 neu post@academi.org



