Archif Newyddion

Llyfr y Flwyddyn

Caryl Lewis sydd wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005

Nos Fawrth 21 Mehefin, yng Ngwesty’r Hilton Caerdydd, datgelwyd taw enillydd Llyfr y Flwyddyn 2005 yw Caryl Lewis, am ei nofel Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004).

Cyflwynwyd y wobr o £10,000 i’r awdur ifanc, sy’n wreiddiol o Ddihewyd, gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg, mewn seremoni fawreddog yng nghwmni’r darlledwr Guto Harri a’r gantores Amy Wadge.

Caryl Lewis gyda Alun Pugh, y Gweinidog er Diwylliant

Dywedodd Alun Pugh: “Mae’n bleser gennyf bod yn bresennol heno i anrhydeddu hufen ysgrifennu cyfoes Cymreig yn y ddwy iaith.  Mae’r llyfrau yn y gystadleuaeth fawreddog hon yn engreifftiau ardderchog o’r hyder cynyddol yn yr hyn y gall y celfyddydau eu cynnig i Gymru, a dengys bod llên yng Nghymru yn fywiog ac yn ffynnu.  Rwy’n eithriadol o falch fy mod wedi gallu rhoi nawdd ariannol i’r ffurf lenyddol hollbwysig hon.”

Dywedodd Meg Elis, cadeirydd y panel Cymraeg, “Mae Caryl yn llenor disglair. Yr oeddem ni’n tri fel beirniaid yn unfryd unfarn mae hi oedd wedi ysgrifennu’r nofel orau”. Bu’n frwydr caled rhwng y dair ar y Rhestr Fer, gyda’r awdur profiadol Bethan Gwanas a’r bardd a’r nofelydd Elin Llwyd Morgan ill dwy ar y Rhestr Fer yn ogystal. Dyma’r tro cyntaf i nofel gan Caryl ymddangos ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn, a llongyfarchiadau mawr iddi ar ei champ.

Trefnir y wobr gan yr Academi Gymreig, yr asiantaeth hyrwyddo llenyddiaeth, ac fe’i noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yr enillydd yn Saeseng yw Owen Sheers am ei nofel The Dust Diaries Faber, 2004).

Owen Sheers gyda Alun Pugh y Gweinidog er Diwylliant

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi:
 
Academi
Yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a
Chymdeithas Llenorion Cymru
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ.
Prif Weithredwr: Peter Finch
ffôn: 029 2047 2266  ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org    post@academi.org

Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru