Archif Newyddion

Cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru 2005/2006

Mererid HopwoodAr faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddydd Mawrth 31 Mai, datgelwyd mai’r Prifardd Mererid Hopwood fyddai’n camu i esgidiau Bardd Plant Cymru 2005/2006. Mewn cynllun ar y cyd rhwng yr Academi, Urdd Gobaith Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru ac S4C, bydd Mererid Hopwood yn olynu’r Prifardd Tudur Dylan Jones. Bwriad rôl Bardd Plant Cymru yw codi proffil barddoniaeth ymysg pobl ifanc, a’u hannog i greu a mwynhau cerddi. Bydd Mererid Hopwood yn ymweld ag ysgolion a chymdeithasau, yn creu gwaith gyda phlant, ac yn gweithio ar gynllun dros y we hefyd.

Ganed Mererid yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari, cyn mynd ymlaen i’r coleg yn Aberystwyth. Wedi cyfnod yn University College yn Llundain, derbyniodd radd doethur mewn Llenyddiaeth Almaeneg. Bu’n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" - y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp.

Trenodd yr Academi Sgwad Sgwennu dan arweiniad Mererid Hopwood yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos diwethaf. Y Sgwadwyr ifainc hyn oedd y criw cyntaf i weithio gyda Bardd Plant newydd Cymru.

Darllenwch y gerdd a gyfansoddod Bardd Plant Cymru 2004-2006, Tudur Dylan Jones i gyfarch Mererid wrth iddo drosglwyddo’r awenau iddi hi.

Cerdd Gyfarch Mererid Hopwood, Bardd Plant Cymru 2005 – 2006

Yma o hyd mae galw am hon,
galwad o’r holl ysgolion,
ei galw hi a wna’n gwlad
oherwydd iddi siarad
yn ifanc ei ffordd hefyd
â geiriau bach gorau’r byd.

Mwynhad pob eiliad, pob un
dan ei hud, yna wedyn,
mi wn y bydd pob munud
a’r oriau oll ar eu hyd
yn ei chwmni hi yn wên,
yn greu wrth garu’r awen.

A sun iaith ein plantos ni’n
eu seddau’n aros iddi,
iddi ddod â’i hawydd iau
i gyrraedd gyda’i geiriau,
byddant yno’n gyffro i gyd…
hir yw’r aros, Mererid.

Tudur Dylan Jones
(Bardd Plant Cymru 2004-2005)