Archif Newyddion

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Academi

Yr Academi

2.00pm – 3.00pm, dydd Sadwrn 16 Gorffennaf, Gwesty’r Conrah, Aberystwyth

Gwahoddir Aeodau llawn yr Academi i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Academi ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf. Cyflwynir y cyfrifon a’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2004-2005 yn y cyfarfod. Bydd yr adroddiad blynyddol ar gael yn gyhoeddus ar wefan yr Academi yn dilyn y cyfarfod. Cynhelir etholiad ar gyfer aelodaeth newydd o Fwrdd Rheoli’r Academi, felly dewch i fwrw’ch pleidlais.

Ni fydd angen cadarnhau gyda’r Academi eich bod am fod yn bresennol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni am gyfarwyddiadau ayb: 029 2047 2266 / post@academi.org / www.academi.org