Archif Newyddion
Stondin yr Academi a Thŷ Newydd ar y Maes

Cofiwch daro heibio i stondin yr Academi ar Faes yr Eisteddfod. Unwaith eto eleni byddwn yn rhannu stondin â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ar y stondin ei hunan, gweler y manylion isod:
Dydd Mercher 3 Awst, 11.00 am
Sesiwn Drafod Tŷ Newydd
Cyfle i chi ddweud eich dweud a rhoi eich barn am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae croeso cynnes i bawb.
Dydd Iau 4 Awst, 11.00 am
Lansio Cystadleuaeth Academi/Lingo Newydd
Dewch draw i ymuno ag Alison Layland, beirniad y gystadleuaeth hon i ddysgwyr ysgrifennu stori fer. Gyda chyflwyniad byr gan Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg.
Dydd Gwener 5 Awst, 2.00 pm
Lansio Tu Chwith, Cyfrol 23: D?r
Bydd criw Tu Chwith yn lansio’r rhifyn diweddaraf ar y thema dur. Dewch i glywed rhai o gyfranwyr y rhifyn hwn yn darllen eu gwaith wrth sefyll mewn bwced o ddur. Ymhlith y cyfranwyr mae Mari Siôn, Eiry Miles, Aneirin Karadog, Hywel Griffiths, Luned Emyr ac Eurig Salisbury.
Dydd Sadwrn 6 Awst, 11.00 am
Cylch Trafod y Cyfansoddiadau
Byddwch yn feirniad am awr neu ddwy wrth i’r cylch trafod ddadansoddi cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005. Dan arweiniad Rocet Arwel Jones. Mae croeso cynnes i bawb.
Cofiwch hefyd fod gan yr Academi ddigwyddiadau ar stondinau eraill ar y Maes hefyd:
Dydd Llun 1 Awst, 1.00 pm yn Y Lle Celf
Lansio Taliesin 125
Cewch gwmni’r golygyddion, Manon Rhys a Christine James a rhai o’r cyfranwyr. Yn eu plith bydd Geraint Lloyd Owen, Meg Elis, Nia Powell ac Ifor ap Glyn. Darperir gwydraid o win hefyd.
Dydd Mercher 3 Awst, 4.00 pm ar stondin y Sefydliad Materion Cymreig/IWA
Lansio Cystadleuaeth Sgwennu Creu Cyfle
Bydd Iwan Llwyd a rhai o feirdd ifainc Sgwad Sgwennu’r Steddfod yn perfformio eu gwaith er mwyn lansio cystadleuaeth sgwennu i blant Cymru ar y thema ’Cymru, Ewrop a’r Byd’. Am ragor o fanylion am gynllun Creu Cyfle-Cultural Explosion ewch i www.culturalexplosion.net.
Am ragor o fanylion am y lansiadau a’r cylchoedd trafod hyn cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266/post@academi.org neu galwch am baned neu ddishgled ar y stondin ddechrau’r wythnos.



