Archif Newyddion
Gwyneth Lewis yn cyflwyno ei gweledigaeth am swyddogaeth y Bardd Cenedlaethol

Yr peth pwysicaf yr ydw i wedi dysgu am ysgrifennu dros y blynyddoedd yw mai’r un egwyddorion — bod mor ymwybodol ag sy’n bosibl, yn barod i fod yn rhan o ddeialog â’r byd –- sy’n cynhyrchu gwaith creadigol da a bywyd cyfoethog. Os ydw i’n gadael i farddoniaeth arwain fy mywyd, yn hytrach na’r ffordd arall, rwy’n sylwi bod y ddau yn fwy celfydd ac effeithiol. Dyma’r egwyddor rwy’n bwriadu ei harfer yn ystod blwyddyn gyntaf fy ngwaith fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Bydd unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus i hyrwyddo barddoniaeth yn codi’n uniongyrchol o’m gwaith creadigol. Fel carreg a deflir i’r pwll, yr ysgrifennu ei hun fydd yn symbyliad i’r gweithgareddau cymdeithasol a chyhoeddus, a fydd yn lledu fel tonnau allan o hynny. Os ariennir y swydd am ail flwyddyn, bydd y pwyslais o anghenraid yn newid, wrth imi ddatblygu llwyfannau newydd i farddoniaeth a rhwydweithiau ehangach o bobl a all elwa ar fedrau’r gelfyddyd. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn dysgu pobl ifanc sut i reoli eu creadigrwydd, yn gelfyddydol ac yn eu bywyd bob dydd, ac yn y budd a all ddeillio o farddoniaeth ym maes gofal iechyd.
Nid ei hyrwyddo ei hun yw tasg y Bardd Cenedlaethol; ei waith ef neu hi yw meithrin barddoniaeth yng Nghymru, gan roi bywyd creadigol o flaen personoliaethau. Yn hytrach na cheisio troi fy hun yn fardd cyhoeddus, rwyf am fod mewn gwirionedd yn fardd ymhlith y cyhoedd, gan ddefnyddio barddoniaeth yn arf i oleuo ac egluro’r pwysau a’r wefr a deimlwn i gyd mewn bywyd bob dydd. Yn ei hanfod, lens yw’r bardd y gallwn weld y byd yn fwy eglur drwyddi. Er na allaf newid y math o fardd yr ydw i, rwy’n gobeithio ehangu’r pynciau y gall pobl eraill – a minnau hefyd - eu gweld trwof. Dyna’r ffordd orau o lawer, rwy’n teimlo, i wneud y gwaith hwn ym mlwyddyn gyntaf y swydd, ffordd a fydd yn caniatáu imi roi holl nerth fy ngwaith y tu ôl i’r swydd gyffrous a phwysig hon.
Gwyneth Lewis
Mehefin 2005



