Archif Newyddion

Cystadleuaeth Tŷ Newydd

Wyt ti’n cofio gwneud llun a stori yn yr ysgol fach?

Dyma gyfle i droi’r cloc yn ôl a rhoi cynnig ar gystadleuaeth creu llun a stori

Bydd y gorau ym marn y beirniad, Iwan Llwyd, yn ennill cwrs penwythnos yn Nhŷ Newydd ar ôl i’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ailagor ar ei newydd wedd yn 2006.

Amodau

• Caiff y llun fod yn llun gwreiddiol neu unrhyw lun gan artist o Gymru
(wedi ei dorri o gylchgrawn, ffotocopi, braslun i gyfleu llun enwog…)

• Caiff y “stori” fod yn gerdd neu’n rhyddiaith cyn belled â’i bod yn ffitio yn y gofod ar y ffurflen gais ac yn ddarllenadwy.

• Caniateir cywaith am y rheswm syml na fyddwn ni ddim callach – ond gwobr i un person fydd ar gael.


Am ffurflen gais, cysylltwch â:
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW
01766 522811 / tynewydd@dial.pipex.com

Dyddiad cau: 31 Awst 2005.

Mae Tŷ Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Academi.