Archif Newyddion

Gyrfa newydd i Gwyneth?

Bydd Gwyneth Lewis – y bardd o Gaerdydd a luniodd y geiriau sydd ar flaen Canolfan y Mileniwm - yn dangos ei gallu fel librettist gydag Opera Cenedlaethol Cymru eleni.

Mae hi wedi ysgrifennu’r geiriau ar gyfer Y Dyn Prydferthaf yn y Byd / The Most Beautiful Man from the Sea, oratorio a fydd yn dod ag awdur o Dde America a 500 aelod o’r cyhoedd at ei gilydd gyda Cherddorfa ac aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru yn gefn i’r cyfan.

Mae’r oratorio newydd hon yn seiliedig ar stori fer gan Gabriel Garcia Marquez, El Ahogado Más Hermoso del Mundo (Yr Un a Foddwyd Prydferthaf yn y Byd). Bydd yn cyflwyno profiad unigryw ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, partneriaid Opera Cenedlaethol Cymru ar y prosiect hwn.

I Gwyneth, roedd stori Marquez yn taro tant: mae hi newydd gwblhau cyfrol o’r enw Two in a Boat sy’n sôn am ei thaith ar y môr. Caiff y gyrfol hon ei chyhoeddi gan Fourth Estate ym mis Ebrill 2005.

Caiff geiriau Gwyneth eu gosod i gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Richard Chew ac enillydd gwobr Time Out, Orlando Gough. Thema’r darn yw adfywiad cymuned glan môr a’r effaith a geir pan fo dieithryn dirgel yn cyrraedd.

Llwyfannir Y Dyn Prydferthaf yn y Byd / The Most Beautiful Man from the Sea yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Awst 26ain 2005. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Opera Cenedlaethol Cymru: beautifulmanchoir@wno.org.uk neu 029 20 635064.