Archif Newyddion

Academi’n Agor Canolfan Newydd i Awduron:
Canolfan Glyn Jones

Awdur yr awen reidiol – a garodd
ei geiriau’n egnïol,
a’u dwyn hwy ar dân yn ôl
i dafodau’r dyfodol
T. James Jones
Ym mlwyddyn canmlwyddiant geni’r awdur eingl-Gymreig, Glyn Jones (1905-1995), bydd yr Academi’n dathlu trwy agor Canolfan Glyn Jones - a leolir yn ein swyddfa yng Nghanolofan Mileniwm Cymru - a gwireddu breuddwyd yr awdur o greu canolfan adnoddau i awduron. Diolch i gymynroddion hael i’r Academi oddi wrth Glyn a’i wraig Doreen, gall awduron a darllenwyr alw mewn i’r Ganolfan gyfleus hon yng nghanol Bae Caerdydd er mwyn cael cyngor ar ysgrifennu a gwybodaeth ar ddigwyddiadau llenyddol a chyfleoedd i awduron.
Agorir y Ganolfan yn swyddogol ar ddydd Iau 6 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Gall Aelodau a Chefnogwyr yr Academi drefnu i ddefnyddio adnoddau’r Ganolfan drwy apwyntiad. Cysylltwch â’r Academi 029 2047 2266 neu post@academi.org am ragor o wybodaeth.



