Archif Newyddion
Adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru, Bangor
Tystysgrif Ôl–radd mewn Ysgrifennu
Gwahoddir ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer cofrestru ar y cwrs arloesol hwn ym Medi 2005.
Mae’r cwrs wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer pobl sydd â pheth profiad ac/neu gymwysterau eisoes mewn ysgrifennu ac sy’n chwilio am gyfle i ymestyn eu harbenigedd. Mae’n gyfle i ymarfer ysgrifennu creadigol ac anghreadigol, yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith ffuglen, ysgrifennu ar gyfer plant, ysgrifennu i gylchgronau, ysgrifennu adroddiadau, a ffurfiau eraill.
Rhan bwysig o’r cwrs yw cyfres o seminarau lle gwahoddir ysgrifenwyr i siarad â’r myfyrwyr ynglwn â’u gwahanol arbenigeddau. Eleni mae’r cwrs wedi cynnwys sesiynau ar ysgrifennu i blant, newyddiaduraeth, rhyddiaith ffuglen a chyhoeddi.
Ysgrifenwyr sy’n dal i ymarfer eu crefft yw’r athrawon. Mae ganddynt brofiad o ysgrifennu a chyhoeddi mewn amrywiaeth eang o ffurfiau ac maent wedi gweld o brofiad personol y ffyrdd y mae gwahanol fathau o ysgrifennu’n rhoi gwybodaeth a phleser i eraill.
Cwrs rhan-amser a gyflwynir dros gyfnod o flwyddyn yw hwn. Disgwylir i fyfyrwyr ddod i ddosbarthiadau ar un noson yr wythnos.
Mae nifer o addysgedau na phennir trwy brawf moddion ar gael, a gellir defnyddio’r rhain tuag at gost ffioedd.
I gael manylion pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Lowri Owen: 01248 383668, l.owen@bangor.ac.uk neu ewch i www.bangor.ac.uk



