Archif Newyddion


Taro’n Ôl yn erbyn llenyddiaeth Ôl–Gynulliad
17 Hydref 2005, Bae Caerdydd

Damian Walford Davies  Dafydd Elis-Thomas

Caiff yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gyfle i ymateb yn ddi-flewyn ar dafod i gwestiynau beiddgar Damian Walford Davies mewn digwyddiad unigryw ym Mae Caerdydd fis nesaf.

Nos Lun 17 Hydref 2005 bydd cyfle i chi ddod i wrando ar sylwadau crafog Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ddetholiad o nofelau gwleidyddol Cymraeg diweddar. Bydd Damian Walford Davies yn crybwyll cyfrolau megis Walia Wigli, Y Dyn D?ad; nofel gan Goronwy Jones gan yr awdur Dafydd Huws a nofel ddychanol Robat Gruffudd, Carnifal gan drafod y cymhelliad sydd gan lenorion Cymraeg i ysgrifennu am wleidyddiaeth mewn nofelau ffuglen.

  Nos Lun 17 Hydref 2005, 7.30 pm
Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, Stryd Bute, Bae Caerdydd
Pris Mynediad: £3.00 / £2.00 (gost.)

Am ragor o fanylion neu i archebu tocynnau, cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 neu post@academi.org

Trefnwyd gan yr Academi