Archif Newyddion

CYMRU GREADIGOL: CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU (CCC) YN CYNNIG GWOBR O HYD AT £20,000 I UN AWDUR

Os ydych yn awdur sy’n torri tir newydd gan greu gwaith arbrofol, ac os ydych yn teimlo y byddai ysgoloriaeth o £20,000 yn helpu i ddatblygu eich addewid, mae angen i chi gadw llygad barcud ar y calendr. Y dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau gan awduron am Wobr Cymru Greadigol yw 5.00pm dydd Gwener 4 Tachwedd 2005.

Lluniwyd Gwobrau Cymru Greadigol mewn ymateb i flaenoriaeth strategol CCC sy’n addo cefnogi artistiaid unigol sy’n creu gwaith newydd, arbrofol a blaengar sy’n hyrwyddo’r ffurf ar gelfyddyd ac arfer gelfyddydol. Nod y cynllun yw cefnogi rhagoriaeth, helpu artistiaid i ddatblygu eu potensial a meithrin cynaliadwyaeth yn y celfyddydau.

I fod yn gymwys rhaid i’r ymgeisydd fod yn awdur cyhoeddedig, sydd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad cynhyrchu gwaith gwreiddiol o safon uchel. Derbynir ceisiadau gan awduron sy’n preswylio yng Nghymru.

Am ffurflenni cais, dylai awduron gysylltu â swyddfa ranbarthol agosaf CCC:

• Swyddfa Gogledd Cymru, 36 Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, LL29 8LA.  Tel:   01492 533 440, Ffacs:  01492 533 677,  Minicom:  01492 532 288.

• Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru, 6 Gardd Llydaw, Lôn Jackson, Caerfyrddin, SA31 1QD.  Tel:  01267 234 248, Ffacs:  01267 233 084, Minicom:  01267 223 496.

• Swyddfa De Cymru, 9 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3NX. Tel:   02920 376 500, Ffacs:  02920 221 447, Minicom:  02920 390 027

Cyngor Celfyddydau Cymru