Archif Newyddion
Gwlad Beirdd
BBC Radio Cymru: 6.30 pm Nos Sul
Bob nos Sul a nos Fawrth mae Radio Cymru yn darlledu rhaglen Gwlad Beirdd, lle bydd gwahanol agwedd ar farddoniaeth Gymraeg yn cael sylw bob wythnos.
Bydd rhaglen nos Sul nesaf, Beirdd y Glannau, yn canolbwyntio ar waith Huw Erith a’r Prifardd Ceri Wyn Jones. Bydd y ddau’n mynd â ni i’w hardaloedd, a chawn glywed am ddylanwad eu cynefin ar eu gwaith a’u bywydau. Ymhlith rhaglenni’r wythnosau i ddod bydd rhaglen am y gynghanedd, a fydd yn rhoi sylw i boblogrwydd cynyddol dosbarthiadau barddol ar draws Cymru ac yn clywed sut aeth ambell ffigwr dylanwadol, gan gynnwys T Llew Jones a Gerallt Lloyd Owen ati i ddysgu cynganeddu. Darlledir rhaglen ar y berthynas rhwng barddoniaeth a rap hefyd.
Gwlad Beirdd
BBC Radio Cymru
6.30 pm Nos Sul gydag ailddarllediad 12.10 pm Dydd Mawrth
Ewch i www.bbc.co.uk/radiocymru i wrando nôl ar raglenni.



