Archif Newyddion
YDYCH CHI’N BAROD AM HER CYSTADLEUAETH BALED BRO BECA?

Ydych chi’n egin gyfansoddwr baledi? Os ydych, beth am roi cynnig ar Gystadleuaeth Baled Bro Beca ac ymunwch â ni i ddathlu hanes Terfysgoedd Rebecca.
Ar nos Wener 8fed Gorffennaf ymunodd Mererid Hopwood, Tecwyn Ifan ac Hywel Teifi Edwards â thrigolion lleol o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i lawnsio Cystadleuaeth Baled Bro Beca. Nôl ym mis Tachwedd 2004 gosodwyd her gan Hywel Teifi Edwards y dylai pobl Cymru gael eu ysbrydoli i gyfansoddi baledi newydd i gynnal chwedl Rebecca. Yn ystod y lawns fe’m hatgoffodd fod etifeddiaeth Rebecca mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn 1839. Tanlinellodd Mererid Hopwood y pwysigrwydd o gofio a dathlu hanes Cymru fel nad yw ein treftadaeth a diwylliant unigryw yn cael ei golli. Ysbrydolodd Tecwyn Ifan y sawl a oedd yn bresenol drwy berfformio nifer o faledi a oedd yn adrodd hanes Rebecca, gan gynnwys un a gyfansoddodd ei hun– ‘Ysbryd Rebecca’.
Cynhelir Cystadleuaeth Baled Bro Beca yn Nhw Bloomfield Arberth ar nos Wener 4ydd o Dachwedd am 7yh. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bobl o bob oed ac yn cynnwys categorïau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Merêd Evans, Phyllis Kinney, Robyn Tomos a Tegwyn Jones fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth. Rhaid i thema eich baled gael ei selio ar hanes Terfysgoedd Rebecca a’i osod i alaw sydd eisoes yn bodoli. Fe fydd rhaid i chi berfformio eich baled eich hun neu trefnu i rywun ei ganu ar eich rhan.
Mae Texaco, yn garedig iawn, wedi noddi holl wobrau’r Cystadleuaeth Ieuenctid. Mae busnesau a mudiadau lleol gan gynnwys Ivor Rees a’i Fab, Brodyr Richards, Brodyr Young a Menter Iaith Sir Benfro wedi rhoi arian tuag at wobrau’r Cystadleuaeth Oedolion.
Dyddiad cau ceisiadau yw Dydd Gwener 21ain Hydref 2005.
Am fwy o wybodaeth am Gystadleuaeth Baled Bro Beca ac i dderbyn ffurflen gofrestri, neu os hoffech noddi wobr cysylltwch â Sarah Pugh yn PLANED yn Arberth ar 01834 862105 neu sarahp@planed.org.uk. Mae manylion hefyd ar gael ar ein gwefan www.brobeca.co.uk
Prosiect treftadaeth cymunedol ar y cyd yw Bro Beca rhwng ACTT yn Sanclêr a PLANED yn Arberth ac mae wedi ei ran-ariannu gan Gronfa Cyfarwyddyd a Gwarant Amaethyddol Ewropeaidd Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.



