Archif Newyddion

G?yl Gynganeddu Tŷ Newydd
Tachwedd 18–20 2005

Myrddin ap Dafydd

… mi glywaf fwrdd yn llafar,
swn beirdd yn dawnsio’n y bar
ac yng ngwesty’r canu caeth,
y bwrdd hwn yw barddoniaeth.
                               Myrddin ap Dafydd

Os ydych chi’n gwirioni ar gynghanedd, yna Llanystumdwy ydi’r lle i chi yn ystod penwythnos yr 18-20 Tachwedd ac mae’r penwythnos hwnnw’n prysur agosau. Felly ewch i www.cynghanedd.com/gwyl i gael golwg ar yr amserlen lawn o ddigwyddiadau, a ffoniwch neu gyrrwch e-bost at Sian Northey yn Nhy Newydd ar unwaith i archebu’ch tocynnau chi.

Gallwch ddod i un neu ddau ddigwyddiad neu aros yn Eifionydd a mynychu’r ?yl i gyd.

I archebu tocynnau neu am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Sian Northey yn Nhŷ Newydd: 01766 522 811 neu post@tynewydd.org

www.cynghanedd.com/gwyl