Archif Newyddion

Darlith gan Menna Baines
G?yl Sgrîn Caerdydd
9 – 19 Tachwedd 2005

Yng Ngolau’r Lleuad gan Menna Baines (Gomer 05)

Dangosiad o Un Nos Ola Leuad (15) gyda darlith fer gan Menna Baines
15 Tachwedd 2005

10.30am - 12.30pm, Cineworld 14

Cyflwyniad arbennig o addasiad ffilm anhygoel Endaf Emlyn yn seiliedig ar nofel ddirdynnol Caradog Prichard, i nodi chwarter canrif ers ei farwolaeth. Bydd Menna Baines, awdur y llyfr diweddar Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (Gomer, 2005) yn cyflwyno darlith fer am ei waith a’i fywyd.
Argymhellir y digwyddiad hwn ar gyfer y rheiny sy’n astudio Un Nos Ola Leuad fel rhan o gwricwlwm Lefel A Cymraeg. Cyflwynir gan Archif Sgrîn a sain Genedlaethol Cymru.

Tocynnau: £3.00 ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan Celfyddydau Chapter: 029 2030 4400
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y digwyddiad hwn, neu ewch i http://www.gwylsgrincaerdydd.co.uk/ am fanylion am yr ?yl gyfan.