Archif Newyddion
…ac i’ch dyddiadur

Cofiwch nodi’r dyddiad hwn yn 2006 yn eich dyddiadur nawr:
24–26 Chwefror 2006 - Gor-awen / Intoxication: Cynhadledd ddwyieithog yr Academi
Gwesty’r Esplanade, Llandudno
Thema’r gynhadledd hon fydd Gor-awen / Intoxication, sef sut y dylanwadir ar lenyddiaeth ac awduron gan feddwdod yn benodol. Bydd y penwythnos yn archwilio i bob math o agweddau ar y thema, gan gynnwys darlithoedd a thrafodaethau penodol yng nghwmni unigolion â phrofiad uniongyrchol â’r pwnc. Ar hyn o bryd disgwylir i Aled Jones Williams, Wynford Ellis Owen, James Hawes, Catherine Fisher, Bethan Gwanas, Rocet Arwel Jones, Ruth Padel, Niall Griffiths a Marek Cohen fod yn rhan o’r rhaglen. Mae’r rhaglen derfynol eto i’w chadarnhau. Cysylltwch â’r Academi am ragor o fanylion: 029 2047 2266 neu post@academi.org



