Archif Newyddion
Caeth am y Pedwerydd Tro

G?yl Gynganeddu Tŷ Newydd
18–20 Tachwedd 2005
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Dŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol gynnal G?yl Gynganeddu. Arbrawf oedd y tro cyntaf ond bellach mae’r ?yl wedi sefydlu ei lle ar galendr digwyddiadau llenyddol Cymru.
“Dwi’n dal i synnu a gwirioni,” meddai Sian Northey, un o drefnwyr yr ?yl “fod posib cynnal penwythnos cyfan o weithgareddau i gyd yn ymwneud efo traddodiad barddol sydd gannoedd o flynyddoedd oed.”
I gael golwg ar y rhaglen lawn, cliciwch yma.
Mae posib mynychu un digwyddiad neu aros yn Eifionydd am y penwythnos a mynychu pob dim o’r nos Wener i’r pnawn Sul. Mae yna amrywiaeth o weithgareddau – rhai ar gyfer arbenigwyr a rhai eraill ar gyfer beirdd llai profiadol neu hyd yn oed y rhai sydd yn gwybod dim oll am gynghanedd. Os nad ydych am wneud dim byd mwy egnïol nag eistedd yn gwrando, dewch i’r Marine yng Nghricieth ar y nos Wener lle bydd rhaglen arbennig o’r Talwrn Radio yn cael ei recordio, neu i’r Ranch yn Llanystumdwy ar y nos Sadwrn ar gyfer y noson o Gynganeddu Doniol. Os ydych chi am ddysgu ychydig, cynhelir dau weithdy yn Nhafarn y Plu ar y bore Sadwrn – un i’r rhai sy’n gwybod dim byd am gynganeddu ac un arall i bobl sydd â rhyw glem.
A tydi bod yn ddi-Gymraeg ddim yn rhwystr i gael blas ar y penwythnos. Bydd Ceri Wyn Jones yn rhoi darlith yn Saesneg yn y Marine, Cricieth ar fore Dydd Sul yr ?yl “APattern Worth Repeating – Gerard Manley Hopkins and Cynghanedd” yw teitl y sgwrs. Darlith arall ar y bore Sul yw Tudur Dylan Jones yn trafod “Gorwelion” - y gerdd a enillodd y gadair iddo yn eisteddfod y Faenol eleni.
Os ydych chi eisiau archebu tocynnau (fe werthwyd tocynnau’r gweithdai a’r nos Sadwrn ymhell o flaen llaw llynedd) cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 523 237 neu post@tynewydd.org.
Ewch i www.cynghanedd.com/gwyl i gael holl fanylion yr ?yl
Cefnogir yr tyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Barddas, Cyngor Gwynedd, Annedd y Cynganeddwyr a Radio Cymru.
Mae Tŷ Newydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Academi



