Archif Newyddion

Féile Filíochta 2005
Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta
Dyddiad Cau: 19 Tachwedd 2005

Achubwyd adran Gymraeg y gystadleuaeth Féile Filíochta y llynedd ac mae angen digon o gerddi Cymraeg eto eleni er mwyn sicrhau lle i’r iaith yn y gystadleuaeth ryngwladol yma. Gyda gwobr gyntaf o 800 ewro, ail wobr o 400 a thrydydd gwobr o 200 ewro mae hi werth twrio yng ngwaelod y drôr i ddod o hyd i gerddi i’w cyflwyno. Mae hawl gennych chi gyflwyno hyd at 4 cerdd i’r gystadleuaeth a’r unig amod yw nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi. Felly ewch i www.dlrcoco.ie am ragor o wybodaeth, a dadlwythwch ffurflen gais yma.

Mae gwobr arbennig o 300 ewro i’r gerdd orau gan fardd 17 mlwydd oed neu iau.
Beirniad y gystadleuaeth Gymraeg yw Myrddin ap Dafydd.

Anfonwch eich cerddi i:
Féilie Filíochta
PO Box 6983
Blackrock
Co Dublin
Eire