Archif Newyddion

Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta

Feile Filiochta

Llynedd, diolch i ymgyrch gan yr Academi, Tŷ Newydd a’r Llyfrgell Genedlaethol, llwyddwyd i ’achub’ y gystadleuaeth Gymraeg yn y Feile Filiochta. Ac nid yn unig ei hachub ond gwneud llwyddiant ysgubol ohoni – ac yn goron ar y cyfan gorseddwyd Tony Bianchi yn brifardd Ewrop. Cynhelir y gystadleuaeth eto eleni - mae’r gwobrau yr un mor hael a’r angen i gynnal presenoldeb Cymru yno yr un mor fawr.

Y dyddiad cau yw Sadwrn 19 Tachwedd 2005 a’r cyfeiriad yw

Féile Filíochta/International Poetry Competition
P.O. Box 6983
Blackrock
Co. Dublin
Ireland

Cofiwch bod adrannau i oedrannau gwahanol felly cofiwch sôn wrth eich cyfeillion, teulu, plant, mamgu, cymdogion ayb. Ceir rhagor o fanylion yma.