Archif Newyddion
Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc ar Faes yr Eisteddfod: yr Academi’n Meithrin Prifeirdd y Dyfodol

Ar Faes y Brifwyl eleni, cyfarfu 23 o aelodau Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc dros Gymru gyfan i greu gwaith newydd dan arweinyddiaeth Karen Owen ac Iwan Llwyd.
Bu’r bobl ifainc dawnus hyn – o Fôn i Ferthyr, o Gaernarfon i Gaerffili - yn ymweld â’r Lle Celf yn y bore, gydag Iwan Llwyd yn annog a chynghori’r aelodau yn unigol.
Yn y prynhawn, drwy garedigrwydd yr Amgueddfa Genedlaethol, cawsant wahoddiad i ymweld â’r Caban, sef safle’r Amgueddfa Lechi ar y Maes, oedd yn ymdebygu i hen gwt y chwarelwyr. Yn dilyn sgwrs ddifyr gan Karen Owen am hanes y chwarelwyr, cafodd y sgwadwyr gyfle i weld y broses o hollti llechen, gydag ambell un o’r rhai dewr yn mentro i hollti llechen eu hunain. Cyn gorffen y sesiwn prynhawn, bu’r plant yn darllen eu gwaith i’w gilydd, ac yna penderfynu ar y gorau - dyma oedd Stomp y Caban!
I goroni’r cyfan, roedd y sgwadwyr yn wahoddedigion arbennig iawn mewn digwyddiad i lansio cystadleuaeth newydd i bobl ifainc ac y cyd rhwng Academi a’r Sefydliad Materion Cymreig, gan ddarllen eu gwaith o flaen eu rhieni, ffrindiau a’r wasg.
Ewch i weld lluniau o weithgareddau’r Sgwad yn yr Oriel. Yn y cyfamser, dyma rai o gerddi a straeon Sgwad Sgwennu’r Steddfod, 2005:
Cymdogion
Cerdd a ysbrydolwyd gan lun yr artist Aneurin Jones
Henaint yn brathu ei safiad brau
ei ffon yn iachawdwriaeth i’w ansadrwydd.
Maent yn siarad am ddyddiau, oriau, munudau gwell,
ond y geiriau sy’n oedi am ennyd,
cyn dod allan yn niwlog o’i enau.
Ei afael gwan ar garpiau bywyd sy’n llacio bob eiliad,
baich yw pob anadl, pob symudiad.
Ond nid cachgi ’mo’r enaid hwn.
Goroesodd ryfel a gormes gwlad,
ond nawr brwydr yw bywyd rhwng ewyllyd a thynged.
Un wrth un, mae’r dyddiau’n mynd heibio,
tua’r diwedd.
Gruffudd Antur, 13 oed - Sgwad Gwynedd
Y Goeden Wen
Coeden wen yn sgleinio
Yng nghanol nos ddu.
Golau a thywyllwch,
Bywyd a marwolaeth,
Gwrthrych a dim.
Huw Jones, 11 oed - Sgwad Powys
Y Babell Gelf
Pennau mawr teimladus
yn gwylio ein camau ofnus.
Papur di-liw gwahanol
Yn ein diddori â stori ddeiniadol.
Hogyn trist llipa
Yn eistedd ar fynydd, y copa.
Delwau bara diddorol
Wedi’u gwisgo yn wahanol.
Rachel fach yn sbio,
bron a marw eisio crio.
Cymysgliw da o las
Dyna’i gyd yw e’n fras.
Gwreiddiau tlws o grefftwaith
Manylder mawr yn y greadigwaith.
Megan Richards, 11, a Angharad Lewis, 11 - Sgwad Powys
Diwrnod ar y Mynydd
"Mari! Tyrd yma," gwaeddodd Elin. Roedd dosbarth Mrs Roberts ar drip yn Eryri. Mis Chwefror oedd hi. Roedd yr eira a’r rhew yn llithrig o dan draed Elin.
"Dwi’n dod nawr," atebodd Mari. Yn sydyn iawn fe ddechreuodd storm ddychrynllyd. Ar ôl deng munud sylweddolodd Elin fod y dosbarth wedi mynd. Erbyn hyn roedd Elin a Mari yn ofnus ac yn unig. Doedd dim s?n i’w glywed heblaw am y gwynt yn chwythu’n gryf. Nid oedden yn gwybod beth i’w wneud. Roedd y storm yn rhy gryf i fynd ymlaen. Yna clywodd Mari s?n cyfarwydd yn dod o gyfeiriad Elin. Gwelsant y dosbarth. Doedden nhw erioed wedi bod mor hapus i’w gweld. Aed pawb yn ôl lawr y mynydd. Roedd yr haul yn machlud. Bechod na wnaethant gyrraedd y copa.
Caron Jones, 10 oed - Sgwad Môn



