Archif Newyddion
Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd
4.00 pm–5.00 pm

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn un mlwydd oed penwythnos yma, ac i’r rhai ohonoch sydd wedi diflasu ar wylio’r rygbi ar brynhawn Sadwrn erbyn hyn mae yna raglen o perfformiadau drwy’r dydd ar ddydd Sadwrn yn rhad ac am ddim yn y Ganolfan.
Ymunwch â Rocet Arwel Jones, Luned Emyr, Non Prys Ifans ac Angharad Elen fydd yn darllen rhai o’u straeon meicro ac yn ein cyflwyno ni i’r ffurf lenyddol newydd bachog hon.
Glanfa, Canalfan Milewniwm Cymru
Mynediad am ddim
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi
029 2047 2266 neu post@academi.org
Dyma rhaglen lawn y diwrnod, gyda gweithgareddau amrywiol yn y cyntedd:
10.30am: Cerddoriaeth Bore Sadwrn ar gyfer Plant. Bydd myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyflwyno cerddoriaeth ac offerynnau i blant ifanc (rhwng 3 a 7 oed).
11.15am: Torri’r gacen - dewch i ymuno yng nghanu “Pen Blwydd Hapus” gyda’r soprano Shan Cothi.
12.00pm: Cytgan. Grwp o gyn gantorion o Gor Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bron i gyd yw Cytgan, ac mae’n grwp siambr Cymreig sy’n perfformio heb arweinydd sy’n wir hoff o ganu. Maen nhw’n cyflwyno rhaglen o waith corawl amrywiol yn cynnwys nifer o weithiau Cymreig, rhai cyfoes a gwerin. (Mewn Cydweithrediad â Ty Cerdd)
1.00pm: Pedwarawd Pres Cymreig. Rhaglen o gerddoriaeth ar gyfer offerynnau pres yn cael ei berfformio gan aelodau o Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
4.00pm: Llên Meicro (manylion uchod)
6pm: Jazz Nos Sadwrn - Band Mawr Byrin Jones. Ymunwch â ni i fwynhau’r band ‘swing’ gwych hwn gyda’u trefniadau arbennig.
7.00pm: Agoriad swyddogol arddangosfa o waith celf gan Richard Cox.
7.00pm: Sound Investors. Yn benllanw prosiect cyfansoddi a gynhaliwyd gan MAX OCC mewn partneriaeth â’r SPNM. Bydd y cyngerdd yn para tua awr ac yn perfformio fe fydd offerynwyr ifanc a rhai sy’n aelodau o OCC. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stiwdio Weston - Cysylltwch â Claire Lewis erbyn 5pm Ddydd Gwener, 25ain Tachwedd ar 02920 635064 os ydych yn dymuno dod i’r Cyngerdd.
7.30pm: Glamorous Night - The Music of Ivor Novello yn Theatr Donald Gordon
Cysylltwch â Chanolfan Mileniwm Cymru am ragor o fanylion: 08700 402000 neu www.wmc.org.uk



