Archif Newyddion

Canolfan Ty Newydd

CYFARWYDDWYR Y GANOLFAN

Tŷ Newydd yw’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol lle darperir cyrsiau preswyl mewn ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r ganolfan hefyd yn trefnu ac yn ymwneud â phrosiectau llenyddol eraill ledled Cymru. Tŷ Newydd yw prif bartner yr Academi ac yma y lleolir swyddfa Gogledd Cymru yr Academi.

Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., cwmni cyfyngedig trwy warant gyda statws elusennol, sy’n rhedeg Tŷ Newydd a chaiff y ganolfan ei chyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bu Tŷ Newydd yn gweithredu’n llwyddiannus er 1990, gan gynnig cyrsiau ysgrifennu creadigol o safon uchel i ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ogystal ag unigolion. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl o bob lefel profiad, o ddechreuwyr i’r proffesiynol, a chynigir ystod eang o bynciau. Sefydlwyd cronfa fwrsari i geisio sicrhau nad yw sefyllfa ariannol unrhyw un yn amharu ar ei gyfle i fynychu cwrs.

Bu Tŷ Newydd ar gau eleni tra roedd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sylweddol yn mynd rhagddo. Dyma gam mawr cyffrous yn natblygiad y ganolfan a bydd yn ailagor yng ngwanwyn 2006 gydag adnoddau llawer iawn gwell ynghyd â rhaglen lawn ac ehangach o gyrsiau a gweithgareddau.

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf. yn chwilio am ddau gyfarwyddwr ar gyfer y ganolfan, i fyw ar y safle ac i fod yn gyfrifol am sirchau fod y cyrsiau’n rhedeg yn ddi–drafferth. Yn ddelfrydol, byddent yn gwpl, ond fe ystyrir ffrindiau sydd o’r farn y gallasent gydweithio a byw gyda’i gilydd/fel partneriaeth yn llwyddiannus. Mae hon yn swydd anghyffredin ac ysgogol a fyddai’n rhoi boddhad mawr i’r ymgeiswyr iawn. Mae’n gofyn am lawer o sgiliau gwahanol ynghyd â’r gallu i fod yn hyblyg ac i beidio â disgwyl i’r un diwrnod fod fel un arall. Fe all hefyd fod yn swydd drom yn gorfforol a disgwylir i’r ymgeiswyr fod mewn iechyd da.

Bydd Cyfarwyddwyr y Ganolfan yn gweithio fel rhan o dîm bychan a disgwylir iddynt gefnogi’r Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ymhob agwedd o’r busnes. Cysylltwch â Thŷ Newydd i gael copi o’r strwythur staffio.
 
Darperir llety yn Hafodty, bwthyn 2 lofft ar safle Tŷ Newydd. Mae car y ganolfan ar gael at ddefnydd Cyfarwyddwyr y Ganolfan pan fo angen.
 
Prif Ddyletswyddau
• Bod yn bresennol ar y safle yn ystod cyrsiau er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn ddidramgwydd
• Bod yn gyfrifol am ddiogelwch a lles mynychwyr y cyrsiau, y tiwtoriaid a’r darllenwyr gwadd a gwneud yn siwr eu bod yn gyfforddus
• Bod yn gyfrifol am yr arlwyo, y glanhau a’r gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd.  Bydd hyn yn golygu arolygu mynychwyr y cyrsiau yn y gegin a pheth gwaith coginio
• Darparu cefnogaeth i’r tiwtoriaid pan fo angen
• Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda’r rhaglennu a chynllunio i’r dyfodol

Cyflog
£17,000 y flwyddyn yr un (i’w adolygu’n flynyddol)
Darperir llety di-rent yn cynnwys trydan, tanwydd a dur (gwerth o leiaf £5,500 y flwyddyn)

Bydd y swyddi hyn am gyfnod prawf dechreuol o hyd at 6 mis, ac ar gytundeb blynyddol wedi hynny.

Oriau
37 awr yr wythnos (oriau hyblyg)
Bydd rhai oriau, o anghenraid, ar benwythnos neu fin nos.  Caniateir amser i ffwrdd yn eu lle.
Bydd hefyd llawer o oriau “ar alwad” pryd y bydd yn rhaid i un o’r Cyfarwyddwyr fod ar y safle ac nid oes tâl am yr oriau hyn.  Credir fod y llety di-dâl yn gwneud iawn am hyn.

Gwyliau
6 wythnos y flwyddyn ynghyd â 10 diwrnod ar neu yn lle gwyliau cyhoeddus.

Pensiwn
Nid oes gan Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf. ei gynllun pensiwn ei hunan ond mae croeso i’r staff dalu i mewn i’w gynllun “Stakeholder” gyda Friends Provident. 

Sgiliau Angenrheidiol
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru:
• Gweithio’n llwyddiannus fel partneriaeth ac ar eu pennau eu hunain heb unrhyw arolygaeth 
• Gweithio fel rhan o dîm clòs
• Delio gyda phroblemau o bob math mewn ffordd addas ac effeithiol
• Delio’n hyderus gyda phob math o bobl
• Gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg (fe ystyrir dysgwyr y Gymraeg)
• Gweithio’n effeithiol ac effeithlon mewn swyddfa ac i fod yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron

Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus fwynhau gweithio gyda phobl a dylid bod â diddordeb mewn llenyddiaeth gyfoes.
Mae’n angenrheidiol fod gan un partner drwydded yrru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Tachwedd 2005

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Sally Baker: Cyfarwyddwr Gweithredol
Tw Newydd, Llanystumdwy, Cricieth,Gwynedd LL52 0LW
Ffôn: 01766 522811   Ffacs: 01766 523095
post@tynewydd.org

Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno mewn ysgrifen gyda CV ynghyd ag enwau a chyfeiriadau dau ganolwr, a chyda ‘Cyfrinachol’ wedi’i nodi ar yr amlen, a’u hanfon at Sally Baker yn y cyfeiriad uchod.