Archif Newyddion

Creu Cyfle

Cystadleuaeth Ysgrifennu i Bobl Ifainc Cymru

Mae’r Academi yn galw ar holl athrawon a rhieni Cymru i dynnu sylw at y gystadleuaeth hon, lle gall eich disgyblion neu’ch plant chi ennill £250 a thrip wedi’i noddi’n rhannol i ymweld â’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel.
Y cyfan sydd angen ei wneud yw ysgrifennu darn o hyd at 700 gair ar unrhyw ffurf greadigol (e.e stori fer, cerdd, sgript ac ati) ar y thema Ewrop Newydd, sef y 10 gwlad newydd i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Gall y darn sôn am unrhyw agwedd dan haul o’r gwledydd hyn – o gêm bêldroed rhwng Cymru a Gwlad P?yl i wyliau teulu ar ynys Cyprus. Ewch i www.creucyfle.net i weld pa wledydd yn union sydd yn newydd i’r Undeb Ewropeaidd ac i ddarllen ychydig mwy am y gwledydd hynny.

Eisiau ennill £250?
Bydd yr enillydd ymhob categori (gwelwr isod) yn ennill £250 yr un, gydag ail wobr o £100 ymhob categori a £50 yr un i bawb sy’n dod yn drydydd yn eu categori.

Eisiau mynd i Frwsel?
Bydd y gr?p, sgwad neu ddosbarth sy’n cyflwyno’r nifer fwyaf o geisiadau i’r gystadleuaeth gyfan yn ennill trip wedi’i noddi’n rhannol i ymweld â’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: creucyfle@academi.org

Categorïau
Mae pedwar categori yn y gystadleuaeth; dau gategori oedran a dau gategori iaith (Cymraeg a Saesneg)
Categori A: 11 - 14 mlwydd oed
Categori B: 15 - 18 mlwydd oed

Dadlwythwch ffurflen gais yma. Gallwch argraffu hon a’i llungopïo os mynnwch.
Dyddiad Cau: 1 Rhagfyr 2005

Dylid anfon unrhyw geisiadau ynghyd â ffurflen gais i’r cyfeiriad isod:

Cystadleuaeth Creu Cyfle
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ

029 2047 2266 neu post@academi.org
www.academi.org