Archif Newyddion

Iwan Llwyd yn Creu Cyfle yn Syr Hugh
Ysgol Syr Hugh Owen yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu i bobl ifanc ar y thema Ewrop Newydd cyn Uwchgynhadledd Ieuenctid Ewrop yng Nghymru fis Hydref.
Mae disgyblion Syr Hugh Owen yr wythos yma yn cael cyfle i greu gwaith newydd fel rhan o gystadleuaeth lenyddol ar yr Ewrop Newydd fel rhan o brosiect Creu Cyfle–Cultural Explosion.
Fel un o bartneriaid Creu Cyfle, Yr Academi sy’n trefnu’r gystadleuaeth a fydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc Cymru o’r deg gwlad newydd Ewrop drwy lenyddiaeth. Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â Uwchgynhadledd Ieuenctid Ewrop yng Nghaerdydd 24-27 o fis Hydref.
Yn dilyn bore o ysbrydoliaeth yng nghwmni’r prifardd Iwan Llwyd, bydd y disgyblion yn gallu cyflwyno gwaith mewn unrhyw ffurf creadigol (e.e barddoniaeth, stori fer neu sgript) ar thema yr Ewrop Newydd. Bydd cyfle i’r disgyblion ddysgu mwy am Ewrop drwy ymweld â gwefan Creu Cyfle.
Dywedodd Iwan Llwyd: "Y ffordd ore i bobl ifanc o Gymru ddatblygu eu dawn fel sgwenwyr yw i ddarllen gwaith a chyfarfod sgwenwyr ifanc eraill o wledydd eraill. Wedyn fe fedran nhw ennill profiadau a dysgu ffyrdd o fynegi eu hunain yng ngoleuni yr acenion newydd hynny. Fe fydd yr iaith Gymraeg yn tyfu yr un pryd."
Mewn cyfnod yn Ewrop, lle mae llawer yn amharod i gofleidio dinasyddion newydd a’r cyhoedd yn ymddangos wedi diflasu ar y syniad o Ewrop, nod Creu Cyfle yw annog pobl ifanc i gymryd diddordeb yn niwylliannau’r gwledydd newydd sef Gwlad Puyl, Y Weriniaeth Tsiec, Slofenia, Slofacia, Hwngari, Estonia, Cyprus, Malta, Latfia a Lithiwania.
Yn ôl Lisa Roberts, pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Syr Hugh Owen: “Cafwyd amser gwych yng nghwmni Iwan Llwyd ac roedd yn gyfle i’r disgyblion gael enhangu gorwelion a dysgu am yr Ewrop newydd yn ogystal â chyfansoddi cerdd newydd. Dwi’n siur y bydd llawer o’r disgyblion yn awyddus i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae wedi rhoi blas ar ddysgu mwy am yr Ewrop newydd iddynt”
Dyddiad Cau Cystadleuaeth Creu Cyfle yw y 1af o Ragfyr gyda seremoni wobrwyo yn rhan o ddathliad Gala Creu Cyfle yn Galeri Caernarfon ar yr 19eg o Chwefror 2006. Beirniaid y gystadleuaeth iaith Gymraeg yw Bardd Plant Cymru, Mererid Hopwood ac Iwan Llwyd. Anogir disgyblion i ymweld â gwefan creucyfle am fwy o wybodaeth.
Creu Cyfle
Deg baner ond un werin – a’u hieithoedd
Ar un daith gyffredin
Ar eu ffordd i groesi’r ffin
I gae arall, llai gerwin.
Iwan Llwyd
Creu Cyfle yw’r unig brosiect a ariennir ym Mhrydain gan y Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o raglen Ewropeaidd (PRINCE –Ehangu) i godi ymwybyddiaeth o’r ddeg gwlad newydd yn yr UE. Partneriaid Academi yn y fenter yw y Sefydliad Materion Cymreig, Canolfan Gerdd William Mathias, S4C, Dawns i Bawb a Chyngor Gwynedd. Cefnogir y fenter gan y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, S4C a’r Cyngor Prydeinig yn ogystal â nifer o gyrff eraill.



