Archif Newyddion

Cystadleuaeth Academi/Lingo Newydd

Lingo Newydd  Academi

Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau fe lansiodd yr Academi, ar y cyd â Lingo Newydd, gystadleuaeth i ddysgwyr ysgrifennu stori fer. Alison Layland o Langynog ym Mhowys yw beirniad y gystadleuaeth a bydd awdur y stori fuddugol yn ennill gwobr ariannol o £50, aelodaeth blwyddyn i’r Academi, tanysgrifiad blwyddyn i Golwg, £30 i’w wario ar lyfrau Gwasg Gomer a thanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn llenyddol Taliesin.

Bydd y stori fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn Lingo Newydd. Ni ddylai stori fod yn fwy na 500 gair ac mae thema’r gystadleuaeth yn hollol agored. Y dyddiad cau yw 1 Rhagfyr 2005. Dylid anfon straeon i Cystadleuaeth Academi/Lingo Newydd, Yr Academi Gymreig, Tw Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ. I gael ffurflen gais neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org.