Archif Newyddion
Llyfr y Flwyddyn 2006
Cofiannau gwleidyddol? Nofelau arswyd? Astudiaethau beirniadol? Barddoniaeth? Chick–lit?
Drwy gydol 2005 mae Catrin Beard, Ieuan Wyn ac Elan Closs Stephens wedi bod wrthi’n darllen y cyfrolau Cymraeg sydd yn gymwys ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2006. Felly hefyd y panel o feirniaid sydd wedi bod yn darllen y cyfrolau Saesneg, John Sam Jones, Nicola Heywood Thomas a Daniel Williams. A chyda dyfodiad 2006, mae hi bron yn amser dod i benderfyniad.
Mae’n rhaid i’r beirniaid ddewis 10 cyfrol Gymraeg a 10 cyfrol Saesneg yn yr wythnosau nesaf er mwyn datgelu’r teitlau ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau 2 Mawrth 2006 – diwrnod lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.
Felly ar ôl dydd Iau 2 Mawrth, bydd gennych chi tan ganol fis Mai i ddarllen yr holl lyfrau sydd ar y Rhestr Hir, os ydych chithau hefyd am fentro rhoi eich barn ar ba gyfrol sydd i dderbyn gwobr arbennig Llyfr y Flwyddyn 2006. A fydd y beirniaid yn dewis eich hoff lyfrau chi? A fydd yna gyfrolau amlwg heb eu dewis? Darllenwch, yna ymunwch yn y dadlau.
Ewch i www.academi.org am ragor o wybodaeth wrth i’r Academi gadarnhau’r manylion.



