Archif Newyddion
Coffáu’r Holocost

26 Ionawr 2006 yw Diwrnod Coffáu’r Holocost, a chynhelir dau gyngerdd arbennig yng Nghaerdydd i nodi’r diwrnod ac i sicrhau na anghofir am echrydau’r holocost. Gofynnwyd i’r Academi gyfrannu at un o’r perfformiadau, ar y cyd â nifer o fudiadau eraill o faes y celfyddydau, megis Diversions a Ffotogallery. Bydd y perfformiad yn cyfuno dawns, cerddoriaeth, canu, celf weledol a barddoniaeth ac fe’i cynhelir yn Neuadd Dewi Sant ar 6 Chwefror am 7.30pm.
Bydd aelodau Sgwadiau ‘Sgwennu Caerdydd a’r Fro a disgyblion Ysgol Gynradd Birchgrove ac Ysgol Gynradd Mynydd Bychan yng Nghaerdydd yn gweithio gyda Patrick Jones, Lloyd Robson, Elinor Wyn Reynolds a Phil Carradice er mwyn creu cerddi trawiadol a chofiadwy ar y thema Gall Un Person Wneud Gwahaniaeth. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org



