Archif Newyddion

Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn llenyddol Cymru ar fin ymddangos o’r wasg…

Taliesin

CYFROL 126, GAEAF 2005

Taliesin 126

  • CROESO I GAERDYDD Nodi hanner canmlwyddiant ennill statws prifddinas gyda Gwyneth Lewis, Bobi Jones, Gillian Clarke, Siân Reeves ac eraill
  • CAEL AIL? Cyfle i gytuno – neu anghytuno – â beirniaid prif gystadlaethau barddoniaeth Eisteddfod Eryri. Cewch ddarllen cerddi Siasbi a Lusudarus
  • NOFELAU GWLEIDYDDOL CYFOES Trafodaeth rhwng Dafydd Elis–Thomas a Damian Walford Davies
  • GOLYGU MARTHA JAC A SIANCO Trafodaeth rhwng Caryl Lewis ac Alun Jones
  • CELF A CHERDD Cerddi Karen Owen yn ymateb i weithiau celf Eisteddfod Eryri
  • CRAFION Colofn y crafwr sy’n crafu’r gwaelod!
  • PASBORT Colofn bigog Goronwy Jones
  • erthyglau, ysgrifau, cerddi, straeon ac adolygiadau – a’r croesair enwog

Pris: £3.50 ar gael yn eich siop lyfrau leol erbyn 12 Rhagfyr, neu tanysgrifiwch am £10 y flwyddyn.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 neu taliesin@academi.org

Cyhoeddir Taliesin gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

Ewch i wefan Taliesin ar www.academi.org/taliesin