Archif Newyddion
Gwasanaeth Mentora yr Academi i Awduron

Dyddiad Cau: 1 Chwefror 2006
Oes nofel neu gyfrol o gerddi ar y gweill? Cyhoeddwr eisoes wedi dangos diddordeb? Dalier sylw – dyma gyfle i ymgeisio am gymorth ymarferol trwy gyfrwng sesiynau gydag awdur profiadol.
Mae’r Gwasanaeth Mentora wedi ei gynllunio i gynorthwyo awduron i ddatblygu a diwygio gwaith addawol sydd eisoes ar y gweill a’i gael i safon cyhoeddi.
Rhaid anfon sampl o’ch gwaith gyda’r ffurflen gais, yn ogystal â llythyr geirda gan gyhoeddwr.
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i’n gwefan www.academi.org neu cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org



