Archif Newyddion

Celyn
CelynLlyfr y Flwyddyn 2005 nawr ar gael ar CD – anrheg Nadolig perffaith

Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis


Martha, Jac a Sianco (CD gan Sain)

Bellach, mae cyfrol fuddugol Llyfr y Flwyddyn 2005 ar gael ar CD. Darllenir y nofel yn ei chyfanrwydd gan yr awdures ei hunan, Caryl Lewis, sy’n hanu o Ddihewyd yng Ngheredigion.

Dyma nofel i’ch llyncu a’ch dryllio gan awdur rhyfeddol o dalentog. Mae’n adrodd hanes dau frawd a chwaer oedrannus a chaledi bywyd ar fferm yng nghefn gwlad de Cymru. Mae’r Graig-ddu yn lle brawychus ac amgylchiadau’n carcharu’r trigolion.

Caryl Lewis
Roedd cyhoeddi’r nofel yn wych,” eglurodd Caryl, “ond mae ei chael ar CD hefyd yn rhoi’r cyfle i bawb ei mwynhau - o’r dall a’r byr eu golwg, i bobol ddyslecsig neu rai sydd yn rhy ddiog i’w darllen


Mae’r CD yma yn cynnig cyfle gwych i ddisgyblion wrando yn ogystal â darllen un o brif lyfrau Maes Llafur yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Nofel eithriadol o bwerus sy’n swyno ambell dro ac yn dychryn dro arall.  Mae’r chwaer a’r ddau frawd yn rhai gwerth eu nabod. Y Fartha drafferthus, ofalus o bawb gan arbed dim arni ei hun. Jac y brawd mawr a’i ddwylo carniog yn byw i ffarmio nes daeth yr hoeden Judy i’w wirioni.  A Sianco, y brawd bach hoffus ac agos-aton-ni.” Wil Sam


Rhai Llyfrau Llafar eraill sydd ar gael ar Gryno-ddisg gan Sain
:

Un Nos Ola Leuad (detholiad o’r nofel a cherddi Caradog Prichard)
Te yn y Grug (Bethan Dwyfor a Merfyn Pierce Jones yn darllen storïau byrion Kate Roberts)
Chwedlau Cymru (Dewi Pws, Llion Williams a mwy yn darllen deg o brif chwedlau Cymru)
Hoff Gerddi Cymru (Darlleniadau gan Gerallt Lloyd Owen, Stewart Jones, Gwenno Ifan a rhai lleisiau o’r archif, ee Saunders Lewis, T. H. Parry Williams a Cynan)
Siwan (Saunders Lewis) gydag Ioan Gruffudd, John Ogwen a Maureen Rhys
R. S. Thomas (50 o gerddi’n cael eu darllen gan y bardd ei hun)