Archif Newyddion
Awn i ail–adfer bro…

Bydd Tecwyn Ifan yn perfformio yn Nhregaron
Yn meddiannu’r llwyfan ar ddiwedd y noson ar 21 Ionawr 2006 yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron, bydd y canwr-gyfansoddwr o Sir Benfro, Tecwyn Ifan. Mae Tecwyn Ifan wedi bod yn ysbrydoli ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd o bob oedran ers tri degawd bellach, a does dim arwydd fod y canwr bytholwyrdd hwn yn colli’i boblogrwydd wrth i genhedlaeth newydd ddarganfod ei ganeuon pwerus a’i lais melfedaidd.
Bydd Tecwyn Ifan yn cloi’r gig a gynhelir fel rhan o ysgol undydd a drefnir gan yr Academi - Gair ar Gân - a fydd yn edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. Yn ymuno ag ef bydd Myrddin ap Dafydd, Heather Jones, Twm Morys, Fflur Dafydd, Gwyneth Glyn, Catrin Dafydd, Aneirin Karadog, Iwan Llwyd ac Hefin Wyn - oll yn dod at ei gilydd i drafod, dadlau a jamio.
Ceir trafodaethau bywiog ar bob agwedd o’r pwnc - o ddylanwand Bob Dylan ar Bob Delyn, sgwrs rhwng ddwy genhedlaeth gyda Catrin Dafydd a Heather Jones, i drafodaeth ar ddyfodol i sîn roc a gwerin, i sesiwn dysgu sgwennu cân gyda Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd.
Mae tocynnau ar ôl - ond brysiwch. Dyma fydd un o uchafbwyntiau 2006.
Tocynnau: £7.00 am docyn nos, £7.00 am docyn dydd
Cynnig arbennig: £10 am y ddau (gyda gostyngiad i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau’r Academi)
Ar gael gan yr Academi nawr: 029 2047 2266 neu post@academi.org
www.academi.org



