Archif Newyddion
Chwarae’r gitâr?
Gair ar Gân: 21 Ionawr 2006
Gwesty’r Talbot Tregaron

Sesiwn cyfansoddi cân gyda Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn
Ydych chi’n ffansïo’ch hunan yn dipyn o Alun Tan Lan neu Gwilym Morus? Wel, dyma’ch cyfle i gamu’n nes at eich breuddwyd o fod yn ganwr–gyfansoddwr ac i ddysgu gan ddwy sy’n gwybod. Bydd Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn yn rhannu’u cyfrinachau cyfansoddi wrth iddynt gynnal gweithdy cyfansoddi cân. Dewch â phapur a phensil, gitâr neu damborîn i ymuno â’r ddwy gantores lwyddiannus yma.
Yn ymuno â nhw i drafod, dadlau, darllen, canu a jamio bydd Heather Jones, Catrin Dafydd, Twm Morys, Iwan Llwyd, Hefin Wyn, Myrddin ap Dafydd, Aneirin Karadog, Ed Holden a Tecwyn Ifan.

Tocynnau: £7.00 am docyn nos, £7.00 am docyn dydd
Cynnig arbennig: £10 am y ddau (gyda gostyngiad i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau’r Academi)
Ar gael gan yr Academi nawr: 029 2047 2266 neu gig@academi.org
www.academi.org



