Archif Newyddion

I Bob un sy’n ffyddlon…

    Bob Dylan  Twm Morys  Gwyneth Glyn  Iwan Llwyd

     Gair ar Gân: 21 Ionawr 2006
Gwesty’r Talbot Tregaron

Twm Morys, Gwyneth Glyn ac Iwan Llwyd yn trafod Bob Dylan

Mae’n bur debyg eich bod chi bobl lengar hefyd wrth eich boddau â cherddoriaeth gyfoes Gymraeg, ac mae’r Academi wedi trefnu gig–wyddiad arbennig ar 21 Ionawr 2006 yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron (lleoliad enwog iawn), i ddathlu canu pop a llenyddiaeth. Yn un o sesiynau’r prynhawn, bydd Twm Morys yn cynnig golwg Bob Delyn ar Bob Dylan gydag Iwan Llwyd a Gwyneth Glyn wrth iddynt oll foesymgrymu i’w Fobrwydd ac edrych ar ei ddylan-wad ef ar lenyddiaeth, cerddoriaeth a diwylliant Cymru.

Yn ymuno â nhw i drafod, dadlau, darllen, canu a jamio bydd Heather Jones, Catrin Dafydd, Fflur Dafydd, Hefin Wyn, Myrddin ap Dafydd, Aneirin Karadog, Ed Holden a Tecwyn Ifan.

Gig y Nos - ac yn goron ar y cyfan, bydd gig yn y nos gyda setiau byw gan Heather Jones, Tecwyn Ifan, Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn ac Y Diwygiad (Aneirin Karadog ac Ed Holden).

Gwesty’r Talbot

Tocynnau: £7.00 am docyn nos, £7.00 am docyn dydd
 Cynnig arbennig: £10 am y ddau (gyda gostyngiad i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau’r Academi)

Ar gael gan yr Academi nawr: 029 2047 2266 neu gig@academi.org
www.academi.org