Archif Newyddion


Colli Iaith?
Gair ar Gân: 21 Ionawr 2006
Gwesty’r Talbot Tregaron

Heather Jones      Catrin Dafydd

Heather Jones yn sgwrsio â Catrin Dafydd

Dydd Sadwrn, 21 Ionawr 2006 bydd dwy genhedlaeth yn edrych dros y degawdau wrth i Heather Jones a Catrin Dafydd drafod, hel atgofion ac edrych ymlaen i’r dyfodol mewn sesiwn arbennig yn Gair ar Gân: Gigwyddiad yr Academi sy’n trafod y berthynas rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru gyda gig yn y nos.    

Yn un o sesiynau’r prynhawn, bydd Catrin Dafydd yn holi Heather Jones am ei chyfraniad hi a’i chyfoedion i’r sîn gerddorol y gorffennol a’r presenol yng Nghymru a thu hwnt. Cawn gymharu hynny wedyn â safbwynt Catrin ei hunan llenor a cherddor gyda’r gr?p Gilespi ym myd cerddoriaeth heddiw. Bydd y sgwrs yn cyffwrdd ar lwyddiant Heather o gyfnod y 1970au hyd heddiw, a hithau’n parhau i berfformio o flaen cynulledifaoedd ledled Cymru.

SESIYNAU’R DYDD
Yn ogystal â’r sesiwn hwn, bydd panel yn trafod dylanwad Bob Dylan ar gerddoriaeth, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gweithdy cyfansoddi cân bop, sgwrs ar hanes cerddoriaeth boblogaidd Cymru a’r ffordd ymlaen i lenorion sy’n gerddorion.

Yn ymuno â Heather a Catrin yn ystod y dydd bydd:
Twm Morys, Fflur Dafydd, Hefin Wyn, Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn, Aneirin Karadog, Iwan Llwyd a Tecwyn Ifan.


GIG Y NOS
Ac yn goron ar y cyfan, bydd gig yn y nos gyda setiau byw gan Heather Jones, Tecwyn Ifan, Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn ac Y Diwygiad (Aneirin Karadog ac Ed Holden).

Tocynnau: £7.00 am docyn nos, £7.00 am docyn dydd
Cynnig arbennig: £10 am y ddau (gyda gostyngiad i fyfyrwyr, pensiwynwyr ac aelodau’r Academi)

Ar gael gan yr Academi nawr: 029 2047 2266 neu gig@academi.org