Archif Newyddion
Gair ar y Gân

Gigwyddiad yr Academi
Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2006
Cerdd. Iaith. Cerdd ac Iaith. Cerddoriaeth? Mae llenyddiaeth Cymru wedi cerdded law yn llaw â cherddoriaeth drwy’r oesau. Mae’r ddau gyfrwng yn aml iawn yn ddibynol ar ei gilydd. Hyd heddiw mae ein prif gantorion Cymraeg hefyd yn feirdd, yn awduron – yn feistri ar drin gair cystal â chord ar y gitâr.
Mae’r Academi wedi trefnu ysgol undydd a fydd yn edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. A all un fodoli heb y llall? Ydi barddoniaeth dda yn cael ei llethu gan gerddoriaeth? Neu efallai eich bod yn cytuno â’r bardd ifanc Aneirin Karadog mai barddoniaeth yw mam rap.
Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2006 yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron bydd Myrddin ap Dafydd, Heather Jones, Hefin Wyn, Gwyneth Glyn a llawer mwy yn dod at ei gilydd i drafod a dadlau, cyn rhoi’u gwahaniaeth barn i un ochr a mwynhau noson o gerddoriaeth gyda Tecwyn Ifan, Heather Jones ac Aneirin Karadog.
Os ydych chi am ymuno â’r rhain ynghyd â Fflur Dafydd, Twm Morys a Catrin Dafydd i leisio barn neu i fod yn rhan o weithdy canu pop, mynnwch eich tocyn cyn gynted â phoisbl.
Gigwyddiad yr Academi
21 Ionwar 2006
Gwesty’r Talbot, Tregaron.
Tocynnau: £10 / £7 gost (neu £7/£5 am docyn i’r gig yn unig)
I archebu: 029 2047 2266 neu gig@academi.org



