Archif Newyddion
DYDD SANTES DWYNWEN – IONAWR 25 2006

Ydych chi’n berson rhamantus ac mewn cariad? Ydych chi’n awyddus i anfon cerdyn wedi ei ddylunio gan yr artist Catrin Meirion a phennill arbennig gan Mererid Hopwood i gyfarch eich cariad?
Mae Gwen Lasarus James - Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd - wedi cytuno i’r gwaith o fod yn llatai eto eleni ar gyfer Dydd Santes Dwynwen, sef 25 Ionawr 2006. Felly cysylltwch â Gwen, yn nodi enw eich cariad, cyferiad, neu gyfeiriad e-bost ar frys cyn Ionawr 25. Bydd hi yna’n danfon cerdyn drwy’r post neu e-gerdyn ar eich rhan (cofiwch nodi os ydych eisiau eich enw chi ar waelod y garden, neu os hoffech ei gadw’n ddirgel).
Cyfeiriad:
Gwen Lasarus
Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd
Academi / Cyngor Gwynedd
Llyfrgell Caernarfon, Allt Pafiliwn,
Caernarfon, Gwynedd LL55 1AS
Ffôn: 01286 679465
post@academi.org www.academi.org
Cefnogir Cynllun Hyrwyddo Gwynedd ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd



