Archif Newyddion

Gwasanaeth Mentora yr Academi i Awduron

Dyddiad Cau: 1 Chwefror 2006

Oes nofel neu gyfrol o gerddi ar y gweill? Cyhoeddwr eisoes wedi dangos diddordeb?  Dalier sylw – dyma gyfle i wneud cais am gymorth ymarferol trwy gyfrwng sesiynau gydag awdur profiadol.

Mae’r Gwasanaeth Mentora wedi ei gynllunio i gynorthwyo awduron i ddatblygu a diwygio gwaith addawol sydd eisoes ar y gweill a’i gael i safon cyhoeddi.

Rhaid anfon sampl o’ch gwaith gyda’r ffurflen gais, yn ogystal â llythyr geirda gan gyhoeddwr.

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cliciwch yma. Neu cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org