Archif Newyddion

 Diwrnod Darllenwyr Gogledd Cymru

Nia Medi  Llion Iwan

Dydd Sadwrn Mawrth 4ydd 2006
Theatr Elwy, Llanelwy

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i Ddiwrnod Darllenwyr Gogledd Cymru yn Theatr Elwy, Llanelwy, i ddathlu wythnos Diwrnod y Llyfr 2006.

Ymunwch â’r awduron Bethan Gwanas, Nia Medi, Llion Iwan, Bernard Knight, Frank Cottrell Boyce, a Jane Wenham-Jones mewn jamborî i ddarllenwyr - bydd sesiynnau grup darllen gydag awduron, panel drafod a phopeth roeddech angen ei wybod am lyfrau llafar. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw. Os ydych yn ddarllenydd unigol, yn aelod o grup darllen neu’n hoffi cyfarfod awduron – beth bynnag rydych chi’n hoffi am ddarllen a llyfrau – bydd croeso cynnes i chi. Bydd y diwrnod yn ddwyieithog felly bydd digon i’w fwynhau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Bethan M. Hughes, Ymgynghorydd Llyfrgell
Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych
Yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP
01824 708207
www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd