Archif Newyddion
Cyffuriau, meddwi, rhyw – addas i blant?
GorAwen: Cynhadledd yr Academi
Gwesty’r Esplanade, Llandudno - 24-26 Chwefror 2006
Mae Caryl Lewis, Gwion Hallam a Bethan Gwanas ill tri yn ysgrifennu ar gyfer oedolion a phobl ifainc. Ond pa mor bell ellid gwthio ffiniau themâu fel rhyw a chyffuriau ac ati wrth ysgrifennu ar gyfer pobl ifainc? Bydd y tri yn ymuno â nifer eraill o awduron, sylwebwyr ac artisitaid yng Nghynhadledd Ddwyieithog yr Academi a gynhelir yn Llandudno ar benwythnos olaf Chwefror.
Y thema eleni yw gor-awen, a bydd y Gynhadledd yn edrych ar bob agwedd o ormodedd, mympwyon dinistriol a chelfyddyd greadigol. O ddarlith gan Gareth Miles ar Ddiwygiad Crefyddol 1904-05, i sgwrs rhwng dau awdur a dau alcoholig, i atgofion Tess Gallagher, gweddw’r awdur Raymond Carver i sesiwn meic-agored gyda’r hwyr - bydd y sesiynnau’n fywiog, heriol, hwyl ac, ar adegau, yn codi gwrychyn ac yn cwestiynnu’r cyffredin.
Gor-Awen / Intoxication: Cynhadledd Ddwyieithog yr Academi, Gwesty’r Esplanade, Llandudno, 24-26 Chwefror 2006. Mae tocynnau - £135 sy’n cynnwys llety am y penwythnos, bob pryd bwyd a holl sesiynau’r gynhadledd - ar gael nawr gan yr Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org.



