Archif Newyddion
Coffáu’r Holocost

Cynhelir dau gyngerdd arbennig yng Nghaerdydd i nodi Diwrnod Coffáu’r Holocost ac i sicrhau na anghofir am echrydau’r holocost.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 26 Ionawr roedd cerddi gan ein Bardd Cenedlaethol Gwyneth Lewis a Gillian Clarke yn rhan o gyngerdd swyddogol Diwrnod Coffáu’r Holocost, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.
Gofynnwyd i’r Academi gyfrannu at berfformiad arall, ar y cyd â nifer o fudiadau eraill o faes y celfyddydau, megis Diversions a Ffotogallery. Bydd y perfformiad yn cyfuno dawns, cerddoriaeth, canu, celf weledol a barddoniaeth ac fe’i cynhelir yn Neuadd Dewi Sant ar 6 Chwefror am 7.30pm.
Bu aelodau Sgwadiau ‘Sgwennu Caerdydd a’r Fro a disgyblion Ysgol Gynradd Birchgrove ac Ysgol Gynradd Mynydd Bychan yng Nghaerdydd yn gweithio gyda Patrick Jones, Lloyd Robson, Elinor Wyn Reynolds a Phil Carradice er mwyn creu cerddi trawiadol a chofiadwy ar y thema Gall Un Person Wneud Gwahaniaeth. Darllenwch un o’r cerddi isod.
Mynediad am ddim.
I archebu tocynnau ar gyfer y perfformiad cysylltwch â Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant: 029 2087 8444
Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org
Rwy’n Gwneud Gwahaniaeth
Ychydig iawn dwi’n gwybod amdani hi
Mae hi’n dieithr i fi fel dyn dall mewn gwlad tramor
Pob Nadolig mae llawer o blant yn boddi mewn tristwch
Y blwyddyn yma bydd yna llawer mwy.
Crwydro o gwmpas y siopau yn darganfod trysorau
I rhoi i’r ferch anffodus ar y diwrnod heddychlon hon
Mae yna teledu yn fy mhen yn meddwl am ei wyneb
Yn gwenu fel golau’r haul.
Mae cartref hi mewn rhacs, ei hatgofion hi’n dychrynllyd
Dwi yn dieithr i hi, ar diwrnod Nadolig hi sy’n derbyn e
Fi rhodd o i hi, byth hi byth yn nabod fi
Mae fel mae hi mewn gwlad arall i fi.
Dwi’n helpu gymaint a gallaf
Dwi’n llenwi bocs llawn syrpreis i hi bob blwyddyn
Blwyddyn yma bydd un plentyn yn llai yn boddi mewn tristwch
Fi wnaeth y gwahaniaeth.
Mae’r sefyllfa yn dywyll fel ogof i hi
Fi yw’r cannwyll sy’n ei goleuo.
Alys Robinson
Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Mynydd Bychan



