Archif Newyddion
SEALINES – Portread o chwe phorthladd Ewropeaidd

Gwahoddir syniadau ar gyfer cyfnod preswyl i awduron ac artistiaid
Bydd Sealines – cynllun ar y cyd rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru Dramor a’r Academi - yn cysylltu chwe phorthladd ewropeaidd, sydd â thraddodiad o ddwyieithrwydd llenyddol, gyda chyfres o gyfnodau preswyl. Bydd awduron ac artistiaid yn cydweithio i greu portread aml-gyfryngol o bob dinas. Bydd pedair prifddinas yn cael eu cynrychioli: Caerdydd, Helsinki, Riga a Valetta, yn ogystal â dau borthladd rhanbarthol: Galway, yn Iwerddon a Koper yn Slovenia.
Nôd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw hybu llenyddiaeth a ysgrifennwyd yn ieithoedd llai Ewrop, yn enwedig drwy brosiectau cyfnewid a chyfieithu. Mae Sealines yn gwahodd ceisiadau gan dri awdur Cymraeg sydd yn ysgrifennu yn y Saesneg, yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog i dreulio mis yn un o’r dinasoedd canlynol: Koper, Helsinki neu Riga. Gwahoddir syniadau hefyd gan artistiaid gweledol, sydd yn gweithio mewn unrhyw gyfrwng, megis ffotograffiaeth, sain, fideo, neu’n defnyddio dulliau aml-gyfryngol, i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Bydd yr artist llwyddiannus yn cael cynnig mis o breswylio yng Nghaerdydd, a bydd disgwyl iddo/iddi gydweithio a rhannu syniadau gyda’r awduron tramor.
Mae gwahoddiad i awduron sydd yn gweithio ym meysydd barddoniaeth, rhyddiaith neu ddrama gynnig cais am y cynllun yn un o’r dinasoedd uchod, gan amlinellu ffocws thematig eu arhosiad. Bydd sefydliad llenyddol ym mhob dinas ynghlwm â’r trefniadau, a byddant yn goruchwylio’r prosiect drwy gyflwyno’r awduron i gysylltiadau yn y byd llenyddol lleol, a chynnig cymorth lle bod angen. Bydd yr arhosiad tramor yn bedair wythnos o hyd, ac yn digwydd rhwng Mai a Hydref 2006 gyda taith ychwanegol i’r un ddinas yn 2007.
Amodau:
1. Dewisir tri awdur. Rhaid iddynt fod yn drigolion o Gymru, gydag un yn byw yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau, a rhaid i o leiaf un awdur ysgrifennu yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
2. Bydd un artist gweledol yn cael ei ddewis: byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais.
3. Byddai’r gallu i gyfathrebu yn iaith y ddinas mae’r awdur yn ymweld â hi yn fantais.
4. Bydd yr awduron o Gymru a ddewisir ar gyfer y cynllun yn gorfod cytuno i fod ar gael yn ystod mis Mehefin 2006, pan fydd awduron o dramor yn treulio mis yng Nghaerdydd. Bydd disgwyl iddyn nhw groesawu’r awduron hyn.
5. Rhaid i’r ceisiadau, a dderbynnir yn y Saesneg neu yn y Gymraeg, fod yn 2000 gair, yn egluro pa ddinas yr hoffech ymweld â hi, eich diddordeb yn y prosiect ac yn sôn am eich bwriad creadigol.
6. Disgwylir i’r awduron sy’n gwneud cais fod wedi cyhoeddi o leiaf un gyfrol eisoes.
7. Rhaid i’r artistiaid sy’n gwneud cais gynnig esiampl o’u gwaith blaenorol.
8. Bydd disgwyl i bob awdur ac artist llwyddiannus ymateb yn bositif i newyddiadurwyr lleol, a chytuno i gael eu ffilmio, a bod yn agored a chymwynasgar gyda’r bobl eraill sydd yn cymryd rhan.
 fyddwch cystal â holi am ragor o fanylion cyn gwneud cais am y cyfnodau preswyl. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Sara Penrhyn Jones, Swyddog Prosiect Llenyddiaeth Cymru Dramor ar llcd-wla@llcd-wla.org
Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2006
Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus erbyn y 15 Mawrth, 2006




O dan y Lloer - cerdd newydd y Nadolig gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru