Archif Newyddion

Cymru Greadigol: dau nofelydd yn cipio prif wobrau ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyfarnwyd cyfanswm o bron i £297,000 o grantiau’r Loteri Genedlaethol neithiwr i 21 artist proffesiynol – gan gynnwys dau awdur – yn ystod noson wobrwyo blynyddol cynllun Dyfarniadau Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Angel Caerdydd ar 19 Ionawr 2006. 

Y nofelwyr poblogaidd Geraint Vaughan Jones a Desmond Barry yw’r ddau awdur llwyddiannus a gipiodd gwobrau unigol gwerth £20,000 yr un.

Mae Geraint Vaughan Jones, o Flaenau Ffestioniog, yn awdur sawl nofel boblogaidd, gan gynnwys Semtecs a Zen.  Bu’n Bennaeth y Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ei waith ysgrifennu. Derbyniodd grantiau gan Gyngor Llyfrau Cymru i ysgrifennu nofelau, ond mae’r wobr hon yn ei alluogi i dorri tir hollol newydd. Bwriada ysgrifennu nofel hir mewn pedair rhan a fydd yn dilyn helyntion pedair cenhedlaeth o’r un teulu dros gyfnod o bedwar ugain mlynedd a mwy. Bwriad y gyfanwaith fydd darlunio’r newid a fu dros y cyfnod hwnnw mewn ffordd o fyw, mewn byd gwaith a byd masnach, mewn safonau cymdeithasol a mewn dirywiad iaith.

Cafodd Desmond Barry ei fagu ym Merthyr Tudful, ac wedi treulio cyfnod yn ysgrifennu yn America, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd nifer o nofelau, gan gynnwys The Chivalry of Crime a Cressida’s Bed. Gyda’r wobr Cymru Greadigol, mae’n bwriadu ysgrifennu ei nofel mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn, a fydd yn ymchwilio i fewn i newidiadau ecolegol a diwylliannol byd-eang.

Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae’r gwobrwyon hyn yn golygu y bydd to newydd o nofelau poblogaidd yn ymddangos – ac er yn uchelgeisiol, bydd y llyfrau hyn yn llwyddo i ennill cynulleidfaoedd newydd i lenyddiaeth yng Nghymru.”

Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn gydnabyddiaeth unigryw o ddoniau artistiaid sy’n byw yng Nghymru ac maent yn fuddsoddiad sylweddol ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn yr artistiaid unigol hyn.  Dyfarnwyd grantiau o hyd at £25,000 i artistiaid sydd wedi gwneud enw iddynt eu hunain mewn amrywiol faesydd gwahanol gan gynnwys y celfyddydau gweledol, serameg, ffotograffiaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Nod y grantiau ydy datblygu rhagoriaeth a meithrin cynaliadwyaeth yn y celfyddydau trwy gefnogi artistiaid i greu gwaith newydd ac arbrofol a fydd yn dwyn eu gwaith a’u celfyddyd ymhellach ymlaen.  Mae’n rhyddhau artistiaid o’u hymrywmiadau arferol ac yn rhoi cyfle iddynt ganolbwyntio ar ddatblygu eu gwaith trwy arbrofi a hynny dros gyfnod penodol o amser.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd CCC:

"Mae hwn yn fuddsoddiad hanfodol bwysig i lwyddiant dyfodol y celfyddydau yng Nghymru.  Mae’r dyfarniadau hyn yn fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu trwy gyfrwng artistiaid unigol sy’n sail i bopeth yn y celfyddydau.  Mae amrywiaeth a safon eu gwaith a’u dyfalbarhad i ganfod llwybrau newydd a chyffrous yn golygu eu bod yn llawn haeddu’r gwobrau hyn.

Ychwanegodd, "mae’n arwyddocaol hefyd fod nifer ohonynt yn cyflawni eu hamcanion drwy weithio gyda grwpiau difreintiedig fel ceiswyr lloches, carcharorion a chymunedau difreintiedig mewn dinasoedd ac yng nghefn gwlad.”