Archif Newyddion
SEALINES – Portread o chwe phorthladd Ewropeaidd

Gwahoddir syniadau ar gyfer cyfnod preswyl i awduron ac artistiaid
Bydd Sealines – cynllun ar y cyd rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru Dramor a’r Academi - yn cysylltu chwe phorthladd Ewropeaidd, sydd â thraddodiad o ddwyieithrwydd llenyddol, gyda chyfres o gyfnodau preswyl. Bydd awduron ac artistiaid yn cydweithio i greu portread aml-gyfryngol o bob dinas. Cynrychiolir pedair prifddinas: Caerdydd, Helsinki, Riga a Valetta, yn ogystal â dau borthladd rhanbarthol: Galway, Iwerddon a Koper, Slovenia.
Mae gwahoddiad i awduron sydd yn gweithio ym meysydd barddoniaeth, rhyddiaith neu ddrama gynnig cais am y cynllun yn un o’r dinasoedd uchod, gan amlinellu ffocws thematig eu arhosiad. Bydd sefydliad llenyddol ym mhob dinas ynghlwm â’r trefniadau, a byddant yn goruchwylio’r prosiect drwy gyflwyno’r awduron i gysylltiadau yn y byd llenyddol lleol, a chynnig cymorth lle bod angen. Bydd yr arhosiad tramor yn bedair wythnos o hyd, ac yn digwydd rhwng Mai a Hydref 2006 gyda taith ychwanegol i’r un ddinas yn 2007.
 fyddwch cystal â holi am ragor o fanylion cyn gwneud cais am y cyfnodau preswyl. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Sara Penrhyn Jones, Swyddog Prosiect Llenyddiaeth Cymru Dramor ar llcd-wla@llcd-wla.org
Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2006
Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus erbyn y 15 Mawrth, 2006




O dan y Lloer - cerdd newydd y Nadolig gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru