Archif Newyddion

Cynhadledd undydd: Lle mewn Llenyddiaeth

Dafad o’r Rhondda

Canolfan Mileniwm Cymru
16 Mawrth 2006, 2.00-7.00pm

Cymru - defaid, pyllau gwag, tai teras, caeau ŷd, afonnydd gwyllt, arfordiroedd hiraethus, mynyddoedd llwm? Neu fflatiau moethus, bariau trendi, ’sguborau wedi eu haddasu, canolfannau cyfoes, perci llawn pobl?

Cynhelir cynhadledd undydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Iau 16 Mawrth 2006 ar y thema Lle mewn Llenyddiaeth - sef sut y mae nofelwyr Cymraeg a Chymreig yn gwneud defnydd o le yn eu gwaith, a sut y diffinir yr ymdeimlad o berthyn i ardaloedd penodol mewn llenyddiaeth. Bydd nifer o awduron mwyaf blaenllaw Cymru’n trafod pwysigrwydd llefydd arbennig yn eu gwaith, ac yn edrych ar y modd y mae lle yn gallu creu llenyddiaeth. Yn eu plith bydd Dylan Iorwerth, Llwyd Owen, Manon Rhys, Caryl Lewis, Daniel Williams, Niall Griffiths, Rachel Trezise, Jim Perrin, Jon Gower a Rocet Arwel Jones.

Noddir y digwyddiad hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o gyfres o gynadleddau undydd i’r sectorau celfyddydol. Trefnir y diwrnod ar eu rhan gan yr Academi.

Am ragor o fanylion, cysylltwch âr Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org