Archif Newyddion
Meddwi ar Dduw?

Gor–Awen: Cynhadledd yr Academi
Gwesty’r Esplanade, Llandudno: 24-26 Chwefror 2006
Am 9.30 bore Sadwrn 25 Chwefror, bydd y llenor a’r sgriptiwr Gareth Miles yn trafod Diwygiad Cymru 1904-5. Dechreuodd y Diwygiad yng nghanol amgylchiadau eithriadol o ran sefyllfa economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol, ac fe sbardunodd ymateb emosiynol eithafol. Cawn gyflwyniad difyr i rai o ffigyrau blaenllaw’r cyfnod a’u hysgrifau.
Yn ogystal â’r Diwygiad, bydd y Gynhadledd yn edrych ar bob agwedd ar ormodedd, mympwyon dinistriol a chelfyddyd greadigol. O sgwrs rhwng dau awdur a dau alcoholig, Aled Jones-Williams a Wynford Ellis-Owen, i atgofion Tess Gallagher, gweddw’r awdur Raymond Carver i sesiwn meic-agored gyda’r hwyr - bydd y sesiynnau’n fywiog, heriol, hwyliog ac, ar adegau, yn codi gwrychyn ac yn cwestiynu’r cyffredin.
Dadlwythwch y rhaglen yn llawn yma (pdf)
Gor-Awen / Intoxication: Cynhadledd Ddwyieithog yr Academi, Gwesty’r Esplanade, Llandudno, 24-26 Chwefror 2006. Rhagor o fanylion gan yr Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org.



