Archif Newyddion

Gynorthwy–ydd Gweinyddol (rhan amser)

Academi

Mae’r Academi’n chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig, sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun, i weithio yn ei swyddfa ym Mae Caerdydd.

Cyflog: £7,000 (17.5 oriau yr wythnos)

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Rydym yn chwilio am berson sy’n meddu ar y nodweddion canlynol:

• Sgiliau trefnu effeithiol
• Gwybodaeth a diddordeb yn niwylliant Cymru
• Gallu gweithio mewn awyrgylch swyddfa brysur
• Gallu gweithio dan bwysau
• Yn gyfarwydd â systemau cyfrifiadurol

Mae rhai o gyfridoldebau’r swydd yn cynnwys:

• Diweddaru gwybodaeth ar y wefan
• Rheoli systemau ffeilio’r swyddfa
• Rheoli gwybodaeth ar gyfer Pwyllgor Aelodau’r Academi
• Delio gyda post allannol a mewnol
• Cefnogaeth cyffredinol i’r staff

Gall y rhestr newid

Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru, ac mae’n un o gwmnïau preswyl Canolfan Mileniwm Cymru.  Ceir manylion llawn ar weithgareddau a gwasanaethau’r Academi ar www.academi.org neu drwy danfon amlen parod atom.

Dylair ceisiadau gynnwys CV llawn ac enwau dau ganolwr. Dylid eu hanfon at:
Academi, Peter Finch: Prif Weithredwr, Tw Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ erbyn 24 Chwefror 2006